Comisiwn Profion yr Unol Daleithiau

Comisiwn Profion yr Unol Daleithiau
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2 Ebrill 1792 Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ralph Smith (yn eistedd) o'r Biwro Safonau yn mesur darn arian yn ystod cyfarfod o Gomisiwn Profion 1942. Yn ei gwmni mae Nellie Tayloe Ross, Cyfarwyddwr y Bathdy, a Vernon Brown, curadur Amgueddfa Arian Chase Manhattan.

Asiantaeth o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau o 1792 hyd 1980 oedd Comisiwn Profion yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Assay Commission). Arolygu profion blynyddol ar ddarnau arian aur, arian, ac yn ddiweddarach metelau bas Bathdy'r Unol Daleithiau oedd ei swyddogaeth. Dynodir rhai o aelodau'r comisiwn gan y gyfraith, a dewiswyd y gweddill yn newydd pob blwyddyn o blith Americanwyr amlwg ac yn aml nwmismatyddion. Roedd aelodau'r comisiwn yn derbyn medal, ac mae'r rhain yn brin iawn, ac eithrio medal 1977 a gafodd ei gwerthu i'r cyhoedd.

Awdurdodwyd y Comisiwn Profion gan Ddeddf Bathdy 1792. Cyfarfu am y tro cyntaf ym 1797, ac yn aml bu'n ymgynnull ym Mathdy Philadelphia. Bydd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn penodi aelodau'r comisiwn pob blwyddyn, a buont yn sicrhau bod pwysau ac ansawdd y darnau arian aur ac arian a gynhyrchir y flwyddyn gynt yn bodloni safonau. Ym 1971 cyfarfu y comisiwn ond nid oedd ganddynt ddarnau aur nac arian i'w mesur. O 1977 ymlaen, ni phenododd yr Arlywydd Jimmy Carter aelodau'r cyhoedd i'r comisiwn, ac ym 1980 arwyddodd ddeddf i'w ddiddymu.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search